Rhodri Fawr Brenin Cymru (Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg) Walker 1990; Davies 1990 Yn ôl traddodiad, Rhodri Fawr - Brenin Cymru yn y 9ed ganrif - a adeiladodd gastell cyntaf Dinefwr (ar y dde). Mae'n anochel bod sylw'n cael ei ganolbwyntio ar y llywodraethwyr Cymreig hynny yr ymestynai eu grym dros ran helaeth o Gymru yn y canrifoedd cyn y Goncwest Normanaidd. Bu iddynt ragarwyddo ymdrechion tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif i greu cenedl Gymreig unedig, a chyffelybu datblygiadau cyfoes yn Lloegr, a datblygiadau tebyg, ond hwyrach, yn yr Alban. Ac felly, fe bortreadir Rhodri Fawr (844-78) fel un a osododd gynsail ar gyfer y dyfodol. Fe deyrnasodd, neu, drwy ei rinweddau personol, fe ra-arglwyddiaethodd, dros lawer o Gymru. Gan Groniclwyr ei genhedlaeth galwyd Rhodri ap Merfyn yn Rhodri Fawr, anrhydedd a roddwyd i ddau lywodraethwr arall yn yr un ganrif - Siarl Fawr (Charlemagne, a fu farw yn 814) ac Alfred Fawr (a fu farw yn 899). Mae'r tair teyrnged yn debyg -cydnabyddiaeth o orchestion dynion a gyfrannodd yn sylweddol at dwf cenedligrwydd ymysg y Cymry, y Ffrancod a'r Saeson. Yn anffodus, nid yw'r dystiolaeth gyfan am fywyd Rhodri yn ddim ond ychydig frawddegau; ac eto mae'n rhaid ei fod wedi gwneud argraff fawr ar y Cymry, gan mai bod o linach Rhodri oedd y prif gymhwyster i'w llywodraethwyr am ganrifoedd i ddod. Hyd ei farwolaeth, fe gydnabyddid Rhodri fel llywodraethwr dros hanner Cymru, a hynny drwy ddiplomyddiaeth gymaint â thrwy orchfygaeth. Cododd enwogrwydd Rhodri o'i lwyddiant fel rhyfelwr. Fe nodwyd y llwyddiant hwnnw gan yr Ulster Chronicle a chan Sedulius Scottus, ysgolhaig Gwyddelig yn llys yr Ymerawdwr Siarl Foel yn Liège. O ganlyniad i'w fuddugoliaeth dros y Llychlynwyr (Vikings) yn 856 daeth bri rhyngwladol. Roedd gan Gymru lai o'r tir ffrwythlon a'r afonydd mordwyol a ddenai'r Llychlynwyr a chafodd y brenhinoedd Cymreig gryn lwyddiant yn eu gwrthsefyll. Ynys Môn a ddug bwysau'r ymosodiad ac yno yn 856 yr enillodd Rhodri ei fuddugoliaeth fawr dros Horm, arweinydd y Daniaid, er mawr lawenydd i'r Gwyddelod a'r Ffrancod. Nid o'r gorllewin yn unig y deuai'r bygythiad i deyrnas Rhodri. Wrth ddod yn llywodraethwr ar Bowys, tiriogaeth ei fam, fe etifeddodd yr hen frwydr gyda theyrnas Mersia. Er bod Clawdd Offa wedi ei adeiladu i ddiffinio tiriogaethau'r Cymry a'r Saeson ni rwystrodd hyn olynwyr Offa rhag ymosod ar Gymru. Fe barhaodd y pwysau ar Bowys; ar ôl 855, Rhodri oedd ei amddiffynwr, ac fe'i lladdwyd, ynghyd â'i fab Gwriad, mewn brwydr yn erbyn y Saeson yn 878. Llinach Rhodri a thywysogion Gwynedd Yn ôl i'r mynegai cestyll Yn ôl i fwydlen y brif dudalen gestyll Owain Glyndwr Uchod: Sêl Owain Glyndwr Gwyn A. Williams 1985; Wales: The Rough Guide, 1994 (Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg) i chrybwyllir yr un enw yng Nhymru cyn amled ag enw Owain Glyndwr (1349-1416), arweinydd dylanwadol cenedlaetholdeb Cymreig ers iddo wrthryfela yn erbyn y Saeson goresgynnol ym mlynyddoedd cynnar y bymthegfed ganrif. Ychydig a wyddys am y dyn y dywedodd Shakespeare amdano yn Henri IV, Rhan 1 'nid yw megis dynion cyffredin'. Yn ddiamau fe wireddodd Owain lawer o broffwydoliaethau cyfriniol y Canol Oesoedd am wrthryfel y ddraig goch. Roedd o dras pendefigaidd ac fe'i magwyd yn ddigon confensiynol, yn rhannol yn Lloegr o bob man. Ychwanegodd ei waed glas at ei hawliad i fod yn Dywysog Cymru, gan ei fod yn ddisgynnydd uniongyrchol i dywysogion Powys a Chyfeiliog. O ganlyniad i'w statws fe ddysgodd Saesneg, astudiodd yn Llundain a daeth yn filwr disglair a theyrngar i frenin Lloegr cyn dychwelyd i Gymru a phriodi. Roedd Glyndwr yn aelod o linach gogledd Powys ac, ar ochr ei fam, yn ddisgynnydd i linach y Deheubarth. Roedd y teulu wedi brwydro dros Llywelyn ap Gruffydd yn y rhyfel diwethaf ac wedi ad-ennill ei diroedd yng ngogledd-ddwyrain Cymru drwy gysylltiad cynlluniedig ag arglwyddi pwerus y Gororau yn Y Waun, Bromfield a Iâl a gyda theulu llai pwysig y Lestrange. Yn y modd yma fe'u gwreiddiwyd yn nosbarth swyddogol y Mers ac fe'u rhestrwyd ymhlith ei uchelwyr llai pwysig. Roedd Glyndwr yn byw yn gysurus. Roedd yn arglwydd Glyn Dyfrdwy a Chynllaith Owain yn ymyl Afon Dyfrdwy ar sail perthynas uniongyrchol â'r brenin drwy'r Barwniaid Cymreig. Roedd ganddo incwm o ryw £200 y flwyddyn a phlasty ffosedig hardd yn Sycharth gyda theiliau a simneiau, parc ceirw, libart, pwll pysgod a melin. Roedd yn un o bendefigion y Gororau i'r carn ac roedd wedi treulio'o dymor yn Ysbytai'r Frawdlys. Mae'n rhaid ei fod yn hyddysg yn y gyfraith; fe briododd ferch Sir David Hanmer, twrnai disglair a oedd wedi gwasanaethu Edward III a Richard II. Roedd wedi gwasanaethu yn rhyfeloedd a gosgorddion Henri o Gaerhirfryn ac Iarll Arundel, ac wedi disgleirio yn ymgyrch yr Alban ym 1385. Ond roedd yn fwy nag un o wyr y Gororau. Roedd yn gynrychiolydd hen dai brenhinol Cymru, yn etifedd i Gadwaladr, a hynny mewn gwlad a oedd yn frith o weddillion llinachau tebyg. Gwlad gythryblus oedd Cymru diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd llofruddiaeth front Llywelyn ein Llyw Olaf a pholisïau llym Edward I i ddarostwng Cymru wedi creu cenedl anniddig a phenisel, lle 'roedd unrhyw arwyddion o wrthryfel yn siwr o ddwyn cefnogaeth. Ym 1399-1400 daeth Glyndwr i wrthdrawiad â'i gymydog pwerus, Reginald de Grey, Arglwydd Rhuthun, cydnabod agos i'r brenin newydd Henri IV. Roedd y ddadl yn ymwneud â thir comin yr oedd Grey wedi ei ddwyn. Ni châi Glyndwr gyfiawnder gan y brenin na'r senedd. Fe oresgynwyd y dyn balch hwn, dros ei ddeugain oed, a'i wallt wedi britho, gan sarhad a dig. Mae yna arwyddion fod Glyndwr wedi ymdrechu i gysylltu â Chymry anniddig eraill, a phan gododd ei faner ar gyrion Rhuthun ar 16 Medi 1400, fe'i cyhoeddwyd yn Dywysog Cymru o'r cychwyn gan ei ddilynwyr. Roedd yr ymateb yn syfrdanol ac mae'n bosib fod Glyndwr ei hun wedi ei ddychryn. Gyda chefnogaeth yr Hanmers, merswyr Normanaidd-Gymreig eraill a Deon Llanelwy, ymosododd ar Ruthun gyda rhai cannoedd o ddynion ac aeth ymlaen i ysbeilio pob tref yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Cafwyd ymateb ar unwaith o Rydychen, lle y gollyngodd ysgolheigion Cymraeg eu llyfrau a heidio adref. Yn fwy trawiadol fyth oedd y newyddion fod gweithwyr Cymraeg yn Lloegr yn rhoi'r offer ar y bar ac yn ei throi hi tua thre'. Rhuthrodd y Senedd Saesneg i gynnwys deddfwriaeth wrth-Gymreig ar y llyfr statud. Arweiniodd Henri IV fyddin fawr ar draws gogledd Cymru, yn llosgi ac yn ysbeilio'n ddidrugaredd. Rhuthrodd pobloedd cyfan i wneud heddwch. Dros y gaeaf, gyda dim ond saith o ddynion, fe giliodd Glyndwr i'r bryniau. Ond yn ystod Gwanwyn 1401, fel yr oedd y Tuduriaid yn hawlio Castell Conwy trwy dwyll, fe symudodd byddin fechan Glyndwr i'r canolbarth a'r de. Unwaith eto cafwyd gwrthryfel gwerinol o'u cwmpas ac fe heidiodd cannoedd i ymuno â'r chwyldro. Yn ystod 1401 daeth Glyndwr yn ymwybodol o rym cynyddol y chwyldro wrth i ddynion o reng uchel ymuno â'r achos. Yn ei lythyrau i dde Cymru fe'i cyhoeddodd ei hun yn waredwr a anfonwyd gan Dduw i wared y Cymry rhag eu gorchfygwyr. Anfonodd brenin Lloegr, Henri IV, filwyr a lluniodd gyfres o ddeddfau llym yn erbyn y Cymry, yn anghyfreithloni hyd yn oed feirdd a chantorion Cymraeg. Parhaodd y brwydro ffyrnig, gyda Glyndwr yn dal Edmund Mortimer, Iarll Merswy, ym Milleth ym mis Mehefin 1402. Erbyn diwedd 1403 roedd Glyndwr yn rheoli'r rhan fwyaf o Gymru. I'r Saeson, mater o ryddhau eu cestyll unig oedd y rhyfel deuddeng mlynedd a ddilynodd. Enciliodd ymgyrch ar ôl ymgyrch yn ddielw. Anfonodd Henri IV, dan warchae gan Gymry, Albanwyr, Ffrancwyr a baronwyr gwrthryfelgar, byddin ar ôl byddin, rhai ohonynt yn anferth, y cwbl yn ofer. Ni ddaeth i'r afael yn iawn â'r sefyllfa ac i raddau helaeth fe ballodd y chwyldro, mewn gwlad fechan a flastiwyd, a losgwyd ac a flinwyd yn ddi-drugaredd. I'r Cymry, roedd yn wrthryfel merswyol a chwyldro gwerinol a dyfodd i fod yn rhyfel gerila cenedlaethol. Mae dycnwch y chwyldro yn drawiadol. Ychydig chwyldroadau yn Ewrop gyfoes a barhâi fwy nag ychydig fisoedd; nid oedd yr un rhyfel Cymreig wedi parhau llawer yn hirach. Fe rygnodd hwn yn ei flaen yn gynddeiriog am ddeng mlynedd ac ni ddaeth i ben yn llwyr am bron i bymtheg. Ym Machynlleth ym 1404 fe gynulliodd Glyndwr senedd o bedwar dyn o bob cwmwd yn Nhgymru, gan greu cydgytundebau o gydnabyddiaeth gyda Ffrainc a Sbaen. Ym Machynlleth hefyd, fe'i coronwyd yn frenin y Gymru Rydd. Cafwyd ail senedd yn Harlech flwyddyn yn ddiweddarach, gyda Glyndwr yn cynllunio i rannu Lloegr a Chymru yn dair, fel rhan o glymblaid yn erbyn brenin Lloegr: byddai Mortimer yn cymryd de a gorllewin Lloegr, byddai Thomas Percy, Iarll Northumberland, yn cymryd y canoldir a'r gogledd, a Glyndwr ei hun yn cymryd Cymru a'r Gororau. Fodd bynnag, fe ganolbwyntiodd y fyddin Saesneg gyda grym cynyddol ar ddinistrio'r gwrthryfel Cymraeg, ac ni wireddwyd y Cynllun Tridarn. Daeth trychineb ym 1408 pan syrthiodd cestyll Aberystwyth a Harlech i luoedd y brenin ac fe garcharwyd teulu Glyndwr ei hun. Unwaith eto bu i'r genedl Gymreig, a oedd wedi bodoli am bedair blynedd, gilio i'r coed, ei thywysog yn herwr drachefn. Drwy gydol 1409 roedd Owain, ynghyd â'i fab Meredudd, llond dwrn o'i gapteiniaid gorau a rhai Albanwyr a Ffrancwyr, yn rhydd, yn difrodi ble bynnag yr aeth. Ni wyr neb beth a ddigwyddodd i Glyndwr, ond, fel Arthur, ni allai farw; fe godai eto. Ar ddau achlysur fe gynigiodd Henri V, y brenin newydd, bardwn i'r arweinydd gwrthryfelgar, ond ymddengys fod yr hen ddyn yn rhy falch i'w dderbyn. Yr hyn sy'n fwy trawiadaol na'r rhyfel cartref a ddilynodd y chwyldro, yw'r serch, y teyrngarwch a'r weledigaeth a ddaeth i'w gynnal. Rhoddodd wyr Glyndwr derfyn ar daliadau i'r arglwyddi a'r goron; roeddent yn gallu codi digon o arian i fynd yn eu blaenau o'r seneddau Cymreig a gynulliwyd, ac a fynychwyd gan gynrychiolwyr o bob rhan o Gymru - y seneddau cyntaf a'r olaf yn hanes Cymru. O blith miloedd o bobol gyffredin ac mewn cyfnodau a oedd yn aml yn anhraethol o arw daeth teyrngarwch a ganiatai i'r hen wr arwain cenedl ranedig, un rhan o 12 maint y genedl Seisnig yn erbyn dau frenin a dwsin o fyddinoedd. Roedd Owain Glyndwr yn dywysog Cymra Hywel Dda Brenin Cymru (Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg) Davies 1990; Walker 1990 Erbyn y flwyddyn 950 Dinefwr oedd y prif lys o ble y llywodraethai Hywel Dda (a bortreadir ar y dde mewn llawysgrif o'r 13eg ganrif) ran helaeth o Gymru gan gynnwys y de-ddwyrain a adnabyddid fel y Deheubarth. Ei gamp fwyaf oedd creu cyfundrefn gyfreithiol unffurf gyntaf y wlad. Yn dilyn marwolaeth eu tad, Cadell, tua 909 rhannodd Hywel a'i frodyr diroedd yng Ngheredigion ac Ystrad Tywi. Unodd Hywel eu hetifeddiaeth yn 920 wedi marwolaeth ei frawd a daeth Gwynedd i'w feddiant yn dilyn marwolaeth Idwal Foel yn 942. Roedd yn briod ag Elen merch Llywarch o Ddyfed a phan fu farw Llywarch yn 904 fe feddiannodd deyrnas y de. O safbwynt yr Oesoedd Tywyll roedd yn dywysog pwerus ac mae'n bosib i genedlaethau diweddarach fenthyg ei awdurdod personol i atgyfnerthu eu grym eu hunain. Fel ei daid, Rhodri Fawr, cafodd Hywel enw dodi gan genhedlaeth ddiweddarach. Daeth i gael ei adnabod fel Hywel Dda, er mai camgymeriad fyddai ystyried y daioni hwnnw i fod yn ddiniwed a dilychwyn. Yn oes Hywel hanfod gwladweinydd oedd anhrugarogrwydd, nodwedd a feddai Hywel arni os yw'n wir mai ef a orchmynnodd lofruddiaeth Llywarch o Ddyfed fel y mae rhai wedi ei honni. Er gwaethaf diffyg tystiolaeth gyfoes nid oes yr un rheswm dros wrthod y traddodiad mai Hywel oedd yn gyfrifol am gydgyfnerthu Cyfreithiau Cymru. Ymhlith cydoeswyr Hywel roedd arweinwyr a ddaeth yn enwog fel deddfrydwyr. Cyfraith Hywel oedd cyfraith gwlad: rhoddai ei enw awdurdod i'r gyfraith, yn debyg i'r hyn a roddwyd i gyfraith y Mers gan y Brenin Offa neu i gyfraith Wessex (a rhan helaeth o Loegr) gan y Brenin Alfred. Mae'n bur debyg ei fod yn gwybod amdanynt: roedd yn ymwelydd rheolaidd â'r llys Seisnig ac yn 928, ym mlodau'i ddyndod, aeth ar bererindod i Rufain. Mewn canrifoedd diweddarach fe honnid iddo gymryd copïau o'i gyfraith i Rufain, lle y'u bendithiwyd gan y Pab. Cyfrannodd traddodiad hefyd fanylion am amgylchiadau llunio a chyhoeddi'r deddfau. Mae'n debyg mai'r angen i ddod ag unffurfiaeth i'w wahanol diriogaethau a ysgogodd Hywel i gyfundrefnu'r gyfraith. Fe lwyddodd hefyd i amddiffyn ei diriogaethau gan nad oes yr un cofnod iddynt gael eu hysbeilio gan y Llychlynwyr (Vikings) yn ystod ei deyrnasiad. Nid ymosododd y Saeson arnynt ychwaith. Parhaodd Hywel â'r berthynas agos â Lloegr a gychwynnodd ei dad-yng-nghyfraith, Llywarch o Ddyfed, ac eto mae'n annhebygol iddo werthfawrogi'r gostyngiad yn ei statws a'r galw am wrogaeth helaeth a ddeuai yn sgil y cysylltiad hwn â theyrnas L loegr. Roedd yn cydnabod ffeithiau grym - grym a ddifaodd deyrnas Frythoneg Cernyw yn ystod ei oes ac a achosodd farwolaeth ei gefnder, Idwal o Wynedd. Fe oroesodd teyrnas y Deheubarth wedi ei farwolaeth ac yn 950 fe'i trosglwyddwyd i'w fab Owain. Dychwelodd Gwynedd a Phowys i linach Idwal ap Anarawd tra y parhai Morgannwg dan reolaeth ei brenhinoedd ei hun. Er i'r undeb rhwng Gwynedd, Powys a'r Deheubarth gael ei dorri, dim ond tri brenin oedd yng Nghymru ar ôl 950, o'i gymharu â dwywaith y nifer honno ddwy ganrif ynghynt. Llinach Hywel Dda ac arweinwyr y Deheubarth (gweler Gwynedd hefyd) Yn ôl i'r mynegai cestyll Yn ôl i fwydlen y brif dudalen Gruffydd ap Llywelyn Brenin Cymru (Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg) Walker 1990 Yn ddi-os Gruffydd ap Llywelyn oedd arweinydd amlycaf Cymru yn yr 11eg ganrif a'r tywysog disgleiriaf i ymddangos ers cyfnod Hywel Dda. Fe deyrnasodd rhwng 1039 a 1063, er na fyddai neb a'i adnabyddai'n llanc wedi disgwyl iddo arddangos yr ymroddiad egnïol a nodweddai ei deyrnasiad. Mae'n debyg ei fod wedi ei sefydlu ym Mhowys erbyn 1039, blwyddyn llofruddio Iago ap Idwal o Wynedd gan ei wyr ei hun, efallai gyda chymorth Gruffydd, a datganodd hawl i deyrnas y gogledd. Roedd yn gwbl anhrugarog, gydag ôl gwaed cystadleuwyr a gwrthwynebwyr ar ei ddwylo, ond wrth edrych yn ôl fe welir ei deyrnasiad fel cyfnod o lwyddiant nodedig. Am bymtheng mlynedd ymladdodd yn galed i fod yn arweinydd teyrnas de Cymru, ond fe'i rhwystrwyd gan ddau frenin penderfynol ac ni allai honni ei fod yn rheoli Cymru gyfan hyd nes 1055. Ei darged cyntaf oedd y Deheubarth, ac ym 1039 fe yrrodd Hywel ap Edwin ar ffo o'r deyrnas. Pan feddiannodd Gruffydd dde Cymru ymgymrodd â pholisi ymosodol tuag at y Saeson. Ym 1055, cafwyd ymosodiad gwleidyddol ar Aelfgar, mab Iarll y Mers, ac ymdrech i'w alltudio. Bu Gruffydd ap Llywelyn yn gynghreiriad gwerthfawr, a chyda chefnogaeth llu o Lychlyn fe'i adferwyd i'w safle. Cyfranwyd llawer at lwyddiant Aelfgar gan gyd-ymosodiad llwyddiannus ar y lluoedd Seisnig yn Swydd Henffordd. Ysgogwyd Harold, Iarll Wessex (y Brenin Harold I yn ddiweddarach) gan y gorchfygiad hwn i ymyrryd yn uniongyrchol, gan gynnull byddin fawr a threfnu cytundeb. Yn y cyfnod hwnnw ni chynigiai Harold unrhyw amddiffyniad parhaol i'r ffin, ond yn hytrach defnyddiodd nifer o dactegau gwahanol dros y blynyddoedd nesaf. Penodwyd esgob newydd yn Henffordd, Loefgar, un o offeiriad Harold, caplan gyda hoffter o faterion militaraidd. Fe geisiodd ymosod yn ddi-rybudd ar Gymru, gyda chanlyniadau dybryd; llwyddodd Gruffydd ap Llywelyn i wthio'r ymosodiad yn ei ôl gan adael byddin Lloegr gyda cholledion mawr. Nid tasg hawdd oedd ail-sefydlu heddwch ar hyd y ffin, ac am gyfnod rhoddwyd amddiffyn yng ngofal Aldred, esgob Caerwrangon, clerigwr mwy diplomataidd ac ymladdgar. Ym 1058 adnewyddwyd y gwrthdaro personol rhwng yr iarll Harold ac Aelfgar, a oedd erbyn hynny wedi etifeddu iarllaeth y Mers, ac ail-adroddwyd patrwm 1055, ond ni ellid cael gwared ag Aelfgar. Yn araf daeth sefyllfa o argyfwng i fodolaeth. Ysgwyddodd Harold gyfrifoldeb am iarllaeth Henffordd a phroblemau amddiffyn y ffin ac erbyn gaeaf 1062-63 roedd yn barod i daro. Cafwyd ymosodiad buan yng nghanol y gaeaf ar Ruddlan lle roedd gan Gruffydd lys sylweddol. Wedi ei synnu gan y tirfilwyr, llwyddodd i ddianc ar y môr. Yn haf 1063 cafwyd ail ymosodiad, gyda llynges yn cefnogi'r fyddin. Y tro hwn ni allai Gruffydd ddianc ar y môr, a bu raid iddo symud i'r canolbarth ble y'i lladdwyd gan ei elynion. Roedd wedi talu pris mawr iawn am ei gynghrair gyda llinach y Mers, cynghrair a oedd yn wastad wedi addo mwy i'r Iarll Aelfgar nag y gallai ei addo i'r tywysog Cymreig. Roedd gorchfygaeth a marwolaeth Gruffydd ap Llywelyn yn drychineb i Wynedd ac i Gymru, a gellid disgwyl y byddai deg i bymtheng mlynedd wedi mynd heibio cyn i'r niwed gael ei atal, a chyn y gellid adnabod yr arweinydd blaenllaw nesaf ymhlith y tywysogion Cymreig. Ni ellid rhagweld y byddai'r Normaniaid (uchod) yn glanio yn Lloegr, gan gyflwyno ffactor gwbl newydd i hanes Cymru; nac felly ychwaith y ffaith drist fod marwolaeth a machlud Gruffydd ap Llywelyn ym 1063 wedi gadael Cymru'n wan a rhanedig, dim ond ychydig flynyddoedd cyn ymddangosiad y gelyn newydd a pheryglus hwn. Yn ôl i'r mynegai cestyll Yn ôl i fwydlen y brif dudalen Gruffydd ap Llywelyn Brenin Cymru (Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg) Walker 1990 Yn ddi-os Gruffydd ap Llywelyn oedd arweinydd amlycaf Cymru yn yr 11eg ganrif a'r tywysog disgleiriaf i ymddangos ers cyfnod Hywel Dda. Fe deyrnasodd rhwng 1039 a 1063, er na fyddai neb a'i adnabyddai'n llanc wedi disgwyl iddo arddangos yr ymroddiad egnïol a nodweddai ei deyrnasiad. Mae'n debyg ei fod wedi ei sefydlu ym Mhowys erbyn 1039, blwyddyn llofruddio Iago ap Idwal o Wynedd gan ei wyr ei hun, efallai gyda chymorth Gruffydd, a datganodd hawl i deyrnas y gogledd. Roedd yn gwbl anhrugarog, gydag ôl gwaed cystadleuwyr a gwrthwynebwyr ar ei ddwylo, ond wrth edrych yn ôl fe welir ei deyrnasiad fel cyfnod o lwyddiant nodedig. Am bymtheng mlynedd ymladdodd yn galed i fod yn arweinydd teyrnas de Cymru, ond fe'i rhwystrwyd gan ddau frenin penderfynol ac ni allai honni ei fod yn rheoli Cymru gyfan hyd nes 1055. Ei darged cyntaf oedd y Deheubarth, ac ym 1039 fe yrrodd Hywel ap Edwin ar ffo o'r deyrnas. Pan feddiannodd Gruffydd dde Cymru ymgymrodd â pholisi ymosodol tuag at y Saeson. Ym 1055, cafwyd ymosodiad gwleidyddol ar Aelfgar, mab Iarll y Mers, ac ymdrech i'w alltudio. Bu Gruffydd ap Llywelyn yn gynghreiriad gwerthfawr, a chyda chefnogaeth llu o Lychlyn fe'i adferwyd i'w safle. Cyfranwyd llawer at lwyddiant Aelfgar gan gyd-ymosodiad llwyddiannus ar y lluoedd Seisnig yn Swydd Henffordd. Ysgogwyd Harold, Iarll Wessex (y Brenin Harold I yn ddiweddarach) gan y gorchfygiad hwn i ymyrryd yn uniongyrchol, gan gynnull byddin fawr a threfnu cytundeb. Yn y cyfnod hwnnw ni chynigiai Harold unrhyw amddiffyniad parhaol i'r ffin, ond yn hytrach defnyddiodd nifer o dactegau gwahanol dros y blynyddoedd nesaf. Penodwyd esgob newydd yn Henffordd, Loefgar, un o offeiriad Harold, caplan gyda hoffter o faterion militaraidd. Fe geisiodd ymosod yn ddi-rybudd ar Gymru, gyda chanlyniadau dybryd; llwyddodd Gruffydd ap Llywelyn i wthio'r ymosodiad yn ei ôl gan adael byddin Lloegr gyda cholledion mawr. Nid tasg hawdd oedd ail-sefydlu heddwch ar hyd y ffin, ac am gyfnod rhoddwyd amddiffyn yng ngofal Aldred, esgob Caerwrangon, clerigwr mwy diplomataidd ac ymladdgar. Ym 1058 adnewyddwyd y gwrthdaro personol rhwng yr iarll Harold ac Aelfgar, a oedd erbyn hynny wedi etifeddu iarllaeth y Mers, ac ail-adroddwyd patrwm 1055, ond ni ellid cael gwared ag Aelfgar. Yn araf daeth sefyllfa o argyfwng i fodolaeth. Ysgwyddodd Harold gyfrifoldeb am iarllaeth Henffordd a phroblemau amddiffyn y ffin ac erbyn gaeaf 1062-63 roedd yn barod i daro. Cafwyd ymosodiad buan yng nghanol y gaeaf ar Ruddlan lle roedd gan Gruffydd lys sylweddol. Wedi ei synnu gan y tirfilwyr, llwyddodd i ddianc ar y môr. Yn haf 1063 cafwyd ail ymosodiad, gyda llynges yn cefnogi'r fyddin. Y tro hwn ni allai Gruffydd ddianc ar y môr, a bu raid iddo symud i'r canolbarth ble y'i lladdwyd gan ei elynion. Roedd wedi talu pris mawr iawn am ei gynghrair gyda llinach y Mers, cynghrair a oedd yn wastad wedi addo mwy i'r Iarll Aelfgar nag y gallai ei addo i'r tywysog Cymreig. Roedd gorchfygaeth a marwolaeth Gruffydd ap Llywelyn yn drychineb i Wynedd ac i Gymru, a gellid disgwyl y byddai deg i bymtheng mlynedd wedi mynd heibio cyn i'r niwed gael ei atal, a chyn y gellid adnabod yr arweinydd blaenllaw nesaf ymhlith y tywysogion Cymreig. Ni ellid rhagweld y byddai'r Normaniaid (uchod) yn glanio yn Lloegr, gan gyflwyno ffactor gwbl newydd i hanes Cymru; nac felly ychwaith y ffaith drist fod marwolaeth a machlud Gruffydd ap Llywelyn ym 1063 wedi gadael Cymru'n wan a rhanedig, dim ond ychydig flynyddoedd cyn ymddangosiad y gelyn newydd a pheryglus hwn. Yn ôl i'r mynegai cestyll Yn ôl i fwydlen y brif dudalen Owain Gwynedd (Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg) Davies 1987; Walker 1990 Ysbardunodd marwolaeth Henri I ym 1135 bolisïau grymusach a mwy gelyniaethus ar ran y Cymry, er i weithredu cadarn gan Stephen (y brenin a olynodd Henri) ac arglwyddi'r Gororau ragarwyddo amddiffyn llwyddiannus. Ym mis Rhagfyr 1154 fe olynwyd Stephen gan Henri II a oedd yn benderfynol o adfer awdurdod i'r deyrnas ac unioni'r niwed a achoswyd gan dyndra sifil a diffyg gweinyddiaeth ganolog gadarn. Erbyn 1157 roedd yn barod i roi ei sylw i Gymru. Fe gariwyd Cymru drwy'r blynyddoedd anodd hyn gan ddau dywysog, Owain Gwynedd yn y gogledd a Rhys ap Gruffydd yn ne Cymru. Roedd y ddau yn ymwybodol o'r problemau cymhleth a oedd yn rhaid eu hwynebu: ymdrin â llinachau cystadleuol Cymreig, ymdrin ag arglwyddi'r Gororau a byw yng nghysgod cymydog cyfoethog a phwerus. Ymatebai Owain yn brydlon i wirioneddau gwleidyddol y cyfnod a waeth pa mor aml y bu raid iddo ildio, ni chollodd y blaen. Ganwyd Owain Gwynedd, Tywysog Gwynedd 1137-70, tua 1109. Ym 1137 fe olynodd ei dad Gruffydd ap Cynan (1081-1137) yn nheyrnas Gwynedd, a estynai dros y rhan fwyaf o ogledd Cymru. Tra'r oedd Lloegr wedi'i dal mewn rhyfel cartref, defnyddiodd Owain ei allu fel gwladweinydd a milwr i ymestyn ei ffiniau. Ym 1157 arweiniodd Henri II ei ymgyrch gyntaf yn erbyn Owain, ond cadoediad fu ei diwedd hi. Bu raid i Owain dalu gwrogaeth i Henri, ond ymhen ychydig wedyn roedd yn gweithredu'n gwbl annibynnol eto. Pan fu farw Madog ap Maredudd ym 1160, ymosododd ar Bowys ac ymestynnodd ei ddylanwad tua'r dwyrain. Chwe blynedd yn ddiweddarach ceisiodd Cyngor Woodstock israddio'r tywysogion Cymreig o statws ymlynwyr i statws gweision dibynnol, ac fe arweinwyd y gwrthryfel a ddilynnodd gan Owain a Rhys ap Gruffydd o dde Cymru. Methiant llwyr fu ail ymdrech Henri i orchfygu Cymru a gadawyd Owain yn rhydd i gymryd cestyll Basingwerk a Rhuddlan (l166-67). Ym 1168 fe gychwynnodd ar drafodaethau gyda Louis VII o Ffrainc i sefydlu cynghrair rhwng Gwynedd a Ffrainc yn erbyn eu gelyn cyffredin. Roedd yn llwybr a ofynnai graffter aruthrol a chrebwyll cadarn. Mewn un ffordd argoeliai bolisi a fyddai'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol gan arweinwyr mwy diweddar Gwynedd, ceisio cydnabyddiaeth a chynghrair yn Ewrop. Wedi herio Henri yn gwbl agored ym 1168 drwy gynnig cymorth i Louis, cadwodd Owain ei sefyllfa annibynnol hyd ei farwolaeth. Ar ei ôl gadawodd yr enw o fod yn ddoeth a hael. Nodwedda teyrnasiad Owain Gwynedd gyfnod mwyaf heddychlon y Gymru annibynnol, pan fu i'r tywysogion Cymreig dderbyn llawer o syniadau diwygiol cyfoes Ewrop ac addasu strwythurau mwyaf effeithiol yr eglwys a'r wladwriaeth i'w cymdeithasau eu hunain. Anogwyd sefydlu mynachlogydd, diffiniwyd ffiniau esgobaethol, ac adeiladwyd llawer o eglwysi carreg. Bellach adeiladid cestyll tomen a beili, tebyg i'r rhai a adeiladwyd ynghynt gan y Normaniaid, yn ganolbwyntiau i lawer o'u hystadau personol. Dywedir mai dau o feibion Owain a adeiladodd y cestyll carreg cyntaf yng Ngwynedd tua diwedd y 12ed ganrif. Y drychineb, sy'n fynych yn hanes Cymru, oedd nad olynwyd Owain yn uniongyrchol gan arweinydd cadarn. Yn dilyn ei farwolaeth ym 1170, torrodd rhyfel rhwng ei feibion: lladdodd Dafydd a Rhodri eu hanner-brawd hyn, Hywel, ac am ugain mlynedd wedyn rhannwyd Gwynedd rhyngddynt a'u perthnasau. Ni welai Wynedd na Chymru arweinydd cryf arall hyd nes i Lywelyn Fawr ymestyn ei reolaeth dros y rhan fwyaf o Gymru tua diwedd y ganrif. Llinach Owain Gwynedd ac arweinwyr Gwynedd Yn ôl i'r mynegai cestyll Yn ôl i fynegai'r brif dudalen Llywelyn Fawr (Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg) Sêl fawr Llywelyn ap Iorwerth (uchod) a'i gerflun yn sgwâr y dref yng Nghonwy (isod). Yng Ngwynedd, roedd Llywelyn ab Iorwerth wedi dod i rym yn null clasurol y tywysogion Cymreig a blagiwyd gan reol dosrannu etifeddiant yng Nghymru - fe'i dygodd gan ei ewythr. Fe'i profodd ei hun i fod y mwyaf, a'r mwyaf adeiladol o wladweinwyr Cymreig y Canol Oesoedd. Yn ystod ei yrfa hir fe lwyddodd, drwy ryfela cyson, drwy ildio'n dringar o dan bwysau, a thrwy wydnwch medrus pan ollyngwyd y pwysau, i ddod â'r rhan fwyaf o Pura Walia o dan ei reolaeth. Pan fu farw ym 1240, yn llawn anrhydedd a bri, fe adawodd dywysogaeth a chanddi'r posibilrwydd o dyfu i fod, yn wir, yn wladwriaeth Gymreig. Am gyfnod, fe edrychai'n debyg bod y Gymru Rydd ar fin dod i fodolaeth. Fe gychwynnodd Llywelyn yn fwriadol ar bolisi o ail-adeiladu holl sylfaen bywyd gwleidyddol Cymreig, er nad oedd pob Cymro'n gwbl hapus yn ei gylch. Roedd Llywelyn yn byw mewn oes a welodd ymddangosiad y wladwriaeth ffiwdal ganolig. Roedd Ffrainc a Lloegr yn datblgu eu mecanwaith gweinyddol, yn rhoi sylfaen newydd a chadarnach i'w system o drethu ac yn systemu'r gyfundrefn gyfreithiol, ond roedd tywysogaeth Llywelyn yn fach ac yn dioddef o ddiffyg adnoddau. Gallai sylwebyddion Saesneg gelyniaethus gellwair ynghylch ei hawl i statws rhyngwladol Roedd Gwynedd wedi bod yn ganolbwynt grym y tywysogion erioed, ac fe ganiataodd estyn tiriogaeth Llywelyn iddo wneud llawer o bethau y tu hwnt i rym cyn reolwyr Cymreig. Fe welir Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) a Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn ein Llyw Olaf) yn datblygu adeiladu cestyll ar raddfa sylweddol. Mae olion Castell y Bere neu Ewlo, Dolbadarn a Dolwyddelan yn dangos steil Cymreig nodweddiadol. Fe roddodd y tywysogion siarteri i'r trefi bychain a oedd yn tyfu yn eu tiriogaethau. Roeddent yn cefnogi'r abatai a'r mynachlogydd. Roedd yna deimlad bod Cymru newydd yn dod i fodolaeth, a honno, ar y pryd, i bob pwrpas yn Gymru annibynnol. Y cwestiwn mawr oedd, a fyddai'r Gymru newydd yn gallu datblygu i'w llawn botensial heb ymyrraeth o'r tu allan neu brotestiadau o'r tu mewn? Yn taflu cysgod drosti roedd brenin Lloegr. Dros hyn i gyd fe bwysai'r cwestiwn dadleuol ond hanfodol o union dermau teyrngarwch Llywelyn i'r brenin. Fe gydnabuwyd y brenin erioed yn ben y pyramid ac erbyn y 13eg ganrif fe dderbyniai rheolwyr Cymreig yr egwyddor o dalu teyrngarwch i frenin Lloegr. Roedd Hywel Dda wedi gwneud hynny, ymhell yn ôl yn y 10ed ganrif, ac roedd Owain Gwynedd a'r Arglwydd Rhys wedi talu teyrngarwch i Henri II. Y broblem oedd bod Llywelyn yn honni bod ei statws mewn perthynas â Brenin Lloegr yr un â statws Brenin yr Alban - bod y barwniaid i dalu teyrngarwch yn uniongyrchol iddo fo ac nid i'r brenin, ond nid oedd y Brenin John o'r un farn. Fe deimlai y dylai'r barwniaid hefyd dalu teyrngarwch iddo fo. Fe roddai hyn yr hawl iddo ymyrryd yn gyson mewn materion Cymreig. Ar adegau roedd y berthynas rhwng Llywelyn a'r brenin yn gefnogol i'w gilydd, yn rhannol gan fod Llywelyn wedi priodi Joan, merch anghyfreithlon y Brenin John, ym 1205. Ond fe dorrwyd y cysylltiad teuluol hwn yn fuan oherwydd y cwestiwn o deyrngarwch a thiriogaethau dadleuol. Ar y dde: Arch Llywelyn, Capel Gwydir, plwyf Llanrwst Pan oedd y tywysogion Cymreig yn gryf gallasant orfodi cydnabyddiaeth amharod o'u sefyllfa gan y brenin. Pan oeddent yn wan, fe roddai'r brenin gytundebau gan gadw'n gadarn at ei syniad ef o deyrngarwch. Roedd Llywelyn Fawr wedi ceisio datrys y broblem cyn ei farwolaeth. Roedd ganddo ddau fab, Gruffydd, drwy Gymraes, a'r mab ieuengaf, Dafydd (David) drwy ei wraig Joan. Roedd cyfraith Gymreig ar y pryd yn datgan y dylai'r ddau fab etifeddu - cyfraith a oedd wedi bod wrth wraidd cymaint o'r olyniaethau dadleuol hynny a oedd wedi dod â dinistr i Gymru yn y gorffennol. Fe wnaeth Llywelyn ymgais ddewr a llwyddiannus i roi'r gyfraith Gymreig beryglus hon o'r neilltu o blaid y drefn Seisnig, gan gael caniatad Henri III - neu ei ymgynghorwyr - i dderbyn Dafydd yn unig etifedd iddo. Ychydig cyn ei farwolaeth fe alwodd holl dywysogion Cymru ynghyd yn Abaty Glyn y Groes ym 1238 a'u gorfodi i dyngu llw o deyrngarwch i Ddafydd. Fe ganiataodd Henri III iddo esgyn i'r orsedd, ond fe wrthododd i Ddafydd dderbyn teyrngarwch uniongyrchol y barwniaid, gan arwain yn y pen draw at ryfel rhwng y brenin a'r tywysog Cymreig newydd. Nid oedd gan Ddafydd a'i luoedd siawns yn erbyn byddin fawr Henri a bu iddynt dynnu'n ôl. Fe fu farw Dafydd, heb blant, ychydig yn ddiweddarach, a'r nesaf i fynnu annibyniaeth Cymru unwaith eto fyddai wyr Llywelyn, Llywelyn ap Gruffydd. Wales - A History, Wynford Vaughan-Thomas, Michael Joseph Ltd Publishing, Llundain WC1, 1985. Llinach Llywelyn ap Iorwerth ac arglwyddi Gwynedd Yn ôl i'r mynegai cestyll Yn ôl i fynegai'r brif dudalen Llywelyn ap Gruffydd Llywelyn ein Llyw Olaf (Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg) Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn marwolaeth Llywelyn ab Iorwerth cafwyd dirywiad sylweddol yn nhynged Gwynedd, yn arwain yn y diwedd at Heddwch Woodstock, a gytunwyd gyda Brenin Henri III ym 1247, flwyddyn ar ôl marwolaeth Dafydd, mab Llywelyn. Yn ôl amodau'r cytundeb fe gollodd Gwynedd yr holl diroedd a oedd ganddi i'r dwyrain o Afon Conwy. Ym 1255 gorchfygodd Llywelyn ap Gruffydd ei frodyr Owain (m.1282) a Dafydd (m.1283) mewn brwydr ym Mryn Derwin. Fe garcharwyd Owain, ac aeth Llywelyn ati i ail-sefydlu awdurdod Gwynedd ac yna ei ymestyn i fod yn oruchafiaeth dros y rhan fwyaf o Gymru. Ym 1267 fe gydnabyddwyd ei safle fel uwch-arglwydd gan Henri III yng Nhytundeb Trefaldwyn pan dderbyniodd y brenin Saesneg wrogaeth Llywelyn fel tywysog Cymru. Treuliodd Llywelyn y deng mlynedd nesaf yn ceisio cyfnerthu a chynnal ei safle ac erbyn 1277 roedd yn rheoli tri chwarter arwynebedd Cymru; sefyllfa a barai gryn bryder i frenin Lloegr. Fe ddechreuodd Llywelyn ei ymgyrch gestyll ei hun drwy atgyfnerthu cestyll ei daid yng Nghricieth, Ewlo a Dolwyddelan. Yn fwy, ym 1273 fe ddechreuodd adeiladu castell newydd yn Nolforwyn yn uchel uwchben dyffryn Hafren, yn herio'r safle brenhinol ar y ffin yn Nhrefaldwyn. Dim ond megis un digwyddiad mewn cyfres o anghytundebau gyda'r brenin newydd oedd gwrthodiad y tywysog i roi'r gorau i'r cynllun hwn. Ddeng mlynedd ar ôl ei gydnabod yn dywysog Cymru gan Henri III fe brofodd Llywelyn orchfygaeth waradwyddus wrth law y brenin newydd, Edward I. O'r cychwyn, ymddangosai bod Llywelyn yn mynd ati'n fwriadol i ennyn dig Edward. Yn arbennig, gwrthododd dalu gwrogaeth ac ildio'r taliadau ariannol a oedd yn ddyledus i'r brenin yn unol ag amodau Cytundeb Trefaldwyn. Fe demptiodd ffawd ymhellach drwy drefnu i briodi Eleanor, merch y barwn gwrthryfelgar, Simon de Montfort, gweithred a oedd i brofi amynedd Edward i'r eithaf. Digon oedd digon ac erbyn 1276-77 roedd Edward wedi penderfynu rhoi trefn ar y tywysog Cymraeg anhydrin. Fe aeth Edward ei hun i'r gad yng Nghaer ym mis Gorffennaf 1277, ac erbyn mis Awst roedd ganddo rhyw 15,600 o filwyr yn ei fyddin. Yn nannedd yr anfanteision hyn nid oedd gan Llywelyn ddewis ond ymbil am heddwch. Roedd Cytundeb Aberconwy, a ddaeth yn sgil hyn, yn warth pur i dywysog Cymru. Wedi ei amddifadu o'r uwch-arglwyddiaeth a enillodd ddeng mlynedd ynghynt roedd Gwynedd unwaith eto wedi ei lleihau i'w bro draddodiadol i'r gorllewin o Afon Conwy. Ar 21 Mawrth 1282 ymosododd Dafydd, brawd Llywelyn ar gastell Penarlâg gan gychwyn rhyfel 1282-83. Fe wynebai Llywelyn argyfwng amhosib bron. Yn cael ei dynnu rhwng ei wrogaeth i'r brenin a'i deyrngarwch i'w frawd a'i bobol fe ochrodd Llywelyn â'i frawd i arwain gwrthsafiad Cymraeg i'r ymosodiad anochel gan Edward I. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd Llywelyn yn farw, wedi ei ladd ar 11 Rhagfyr mewn gwrthdrawiad byr â lluoedd Seisnig ym Mhont Irfon, yn ymyl Llanfair ym Muallt. Gosodwyd maen coffa (ar y dde) yn ymyl maes brwydr olaf Llywelyn, maen Cilmeri. Mwy o wybodaeth am Ryfelodd Annibyniaeth Cymreig Cysylltiad i dudalen Castell Fflint Cysylltiad i dudalen Castell Deganwy Cysylltiad i dudalen Castell y Bere Llywelyn yn erbyn Gilbert de Clare Llinach Llywelyn ap Gruffydd/Gwynedd Yn ôl i'r mynegai cestyll Yn ôl i fwydlen y brif dudalen