Aled Islwyn Stori Linda ********* Rwy ar fy mhen fy hun. Ar fy mhen fy hun y bydda i rwan, decini. Mae o'n dal i fyw efo fi, wrth gwrs. Ond all petha ddim bod 'run fath ag y buon nhw. Er nad oes dim wedi newid. Mae o'n dal yn ddigon caredig a fuodd o 'rioed yn un crintachlyd efo pres. Rwy'n cael mwy na'r rhan fwya o ferched at gadw ty a ballu. Ac mae o'n reit dda am drwsio hyn a mendio'r llall o gwmpas y lle yn ôl y galw. Pan mae'n fater o roi help llaw efo Llinos, wedyn, mae o'n ddi-fai. Dadi ydy popeth gan honno. Ond all petha byth fod yr un peth eto, allan nhw? Nid ei fod o wedi sôn dim er y noson honno. Dyna sy'n rhyfedd. 'Run gair o'i enau ar y pwnc. Fel 'taswn i 'rioed wedi gofyn. Mae o'n dal i fynd i'w waith bob dydd ac mi ddoth am dro efo Llinos a finna ar ôl cinio ddydd Sul diwetha, fel arfer. Petha normal fel 'na sy'n 'y ngwneud i'n siwr nad ydy'r cymdogion yn ama dim. Maen nhw i gyd yn meddwl 'mod i'n lwcus iawn. Achos mi ddeudodd hi drws nesa wrtha i y diwrnod o'r blaen y basa'n dda ganddi hi gael gwr fel David. Dim and er mwyn y plant mae hi wedi aros efo'i hun hi, yn ôl y sôn. Sut fedar hi ddallt? Nid hi holodd i ble'r oedd o'n mynd y nosweithia roedd o allan hyd berfeddion. Nid hi gafodd yr ateb ges i nos Fercher diwetha. A pheidiwch â dweud wrtha i am holi mwy er mwyn cael dallt yn well. Mae arna i ormod o ofn. Mi ddeuda fo'r gwir wrtha i, syth bin. Rwy'n gwbod hynny rwan. Dyna roddodd gymaint o fraw i mi. Dyna ydy hanner y drwg. Down i ddim wedi holi'n ddrwgdybus hyd yn oed. Dyna sy'n rhyfedd. Ddim wedi meddwl am ddynas arall na dim byd felly. Meddwl ei fod o'n treulio nosweithia efo'i fêts o yn y gwaith wnes i. Meddwl mai mynd i rwla i gyfarfod â'r rheini oedd o. Ond fe ddylwn i fod wedi tybio, mae'n debyg. Un garw am 'i gwmni'i hun ydy o. Chadwodd o 'rioed afael ar ffrindia ysgol. Fe gollodd gysylltiad â1i fêts yn y fyddin. Wn i ddim pam. Di-ddweud ydy o, dyna i gyd. Dyna pam y licish i o yn y lle cynta. Roedd o'n dawel a ddim yn mwydro 'mhen i efo'i siarad. Yn wahanol i'r hogia erill oedd o gwmpas y dre. Dydy dyn sy'n cadw seiat un-dyn ddim yn debyg o greu sôn amdano. Dyna fydda Nain yn arfer ddeud. Ac un felly oedd David. Be haru fi? Un felly ydy o o hyd. Dyna pam y mae'i eiria fo wedi brathu. A1i lais o'n gras. Doeddan ni ddim yn ffraeo, byth. Tydan ni ddim rwan. Dyna dw i'n methu'i ddallt. Am 'y mod i'n dal i'w garu, mae'n debyg. Er na fedra i deimlo dim am yr hyn sydd wedi digwydd. A does 'na ddim byd wedi digwydd, chwaith. Dyna pam dw i'n teimlo'n wag tu mewn. A fedra i ddim siarad efo fo o gwbwl. Fiw imi. Fiw imi ddeud 'run gair wrth neb. Wrth godi o'i swper neithiwr mi ddeudodd o fod 'y ngwallt i'n ddel. Rwy'n dal i'w liwio fo'n frown, fel y noson honno y gwelodd o fi gynta erioed. Flynyddoedd 'nol roedd o'n arfer deud mai dyna pam y ffansïodd o fi yn y lle cynta. Finna'n cochi i wreiddyn cringoch pob blewyn ar 'y mhen i. Tydy o heb ddeud dim byd clên felly erstalwm. Ac ella nad eith o ddim a 'ngadal i os ydw i'n dal i blesio mewn rhyw ffordd. Ond pwy wyr beth all ddigwydd? Rown i'n edrych arno wedyn neithiwr yn chwara efo Llinos yn yr ardd. Finna'n golchi'r llestri wrth ffenast y gegin. Rown i'n clywad fy llais fy hun yn fy mhen yn gweddïo na fydd o byth yn gadal. Rwy'n clywad y weddi honno rownd y rîl. Fiw imi sôn wrth neb. Fe alwodd Mam pnawn 'ma. Fy ngweld i'n dawelach hyd yn oed nag arfer, medda hi. Mi ddeudish i be ddeudodd David am 'y ngwallt i. Petawn i'n deud y gwir i gyd mi fydda hi 'n siwr o daeru mai fi sydd ar fai. Pan ddechreuon ni ganlyn fe ddeudodd Mam fod David yn weithiwr calad ac y baswn i'n siwr o fod yn iawn efo fo. `Sticia di ato fo, 'ngeneth i. Mae hogyn solat gen ti fan 'na.' Roedd o'n ddyn i gyd, hefyd. Adra o'r army ar leave ac ar fin 'madal am byth. Priodi ar ôl blwyddyn o ganlyn. Dim haul ond mi gadwodd yn sych. Mae o'n ddyn i gyd o hyd, wrth gwrs. Dyna pam dw i ddim yn dallt. Er y dylwn i gynefino, mae'n debyg. Toes 'na wythnosa wedi mynd heibio! Ac mi ruthrish inna i fyny'r grisia 'na i grio. 'Paid â bod mor wirion neu fe ddeffri di Llinos,' medda fo'n swta wrth sefyll yn nrws y llofft yn sbio arna i1n nadu ar y gwely. Mae o wastad yn meddwl am Llinos. A phan ddaw o adra o'i waith a chael un o'n mamau ni yma, mae o'n fêl i gyd bryd hynny hefyd. Yn eu cusanu nhw fel tasa dim o'i le. Ac ella nad oes 'na ddim o'i le. Ella mai fi sy'n meddwl gormod fel y bydd Mam yn 'i ddeud. Mae o'n dal i fod isho fi ryw ddwywaith yr wythnos. Teirgwaith, weithia. A fydda i byth yn gwrthod. Byth. Dw i 'rioed wedi'i wrthod o. Ddim hyd yn oed cyn inni briodi. `Dal di dy afael arno fo,' fydda Mam yn 'i ddeud. A dyna wnes i. Achos dw i wedi bod 'i isho fo 'rioed. Yn gynnas ac yn drwm. Wedi gorffen caru mae o'n rholio oddi arna i ac yn troi at y pared. Rwy am iddo 'nal i fymryn, ond fydd o byth yn gwneud. Nid arna i mae'r bai. Fe ffonish i'r llinell gymorth 'na y noson o'r blaen a gwneud mwy o ffwl ohonof fy hun nag arfer. Ar ddiwedd rhyw raglen deledu y gwelish i'r rhif. Lein ffôn i wragedd fatha fi. Helpline for any spouse with a gay partner oedd y geiria ddefnyddion nhw. Dwi'n spouse ac mae o'n gay. Ond fasach chi byth yn medru deud. Dim ond ar nos Fawrth mae'r llinell ar gael a ffliwc oedd hi fod David allan. Ar ôl i'r ffôn ganu am hydoedd, fe atebodd y ddynas 'ma fi a'i gwynt yn ei dwrn. Roedd 'i llais hi'n ddigon caredig, am wn i. Un dda am wrando oedd hi, medda hi. Doedd dim isho bod yn swil. Roedd hi'n dallt. Ond doeddwn i ddim mor siwr. Tasa hi ond wedi gallu 'ngweld i bum munud ynghynt yn rhythu ar y ffôn 'na cyn magu digon o blwc i'w godi. Dyna lle buodd hi am funuda yn ceisio fy annog i ddeud rhwbath. Finna'n rhewi trosof ac yn 'cau deud dim. Ar wahân i1n llygada! Roedd gan y rheini ddigon i'w ddeud. Ond doeddan nhw ddim wedi rhewi chwaith. Rhedeg fel dwy raeadr a minna'n methu deud dim ond nadu crio. Rhaid 'mod i'n swnio'n fwy llywath nag arfer, achos fe ofynnodd imi faswn i rywfaint hapusach o gael rhywun i siarad Cymraeg. Fe gâi hi rywun i fy ffonio i'n ôl. Na, medda fi o'r diwedd. Mi fasa hi'n gwneud y tro. Haws deud yn Saesneg rywsut. Mwy diarth. A fedrwn i ddim rhoi fy rhif, p'run bynnag. Fe gollai1i limpin yn lân tasa fo byth yn dod i wbod. Mi ddechreuish i sôn am y ffordd yr atebodd o fi mor ddiflewyn-ar-dafod y tro hwnnw. Am y dagra. A1r distawrwydd wedyn. Mi ddeudish i bopeth. Digwilydd bron, alwish i o. Y ffordd y galla fo sefyll fan 'na'n parablu am 'i 'anghenion', chwedl ynta. Mor oer a digwilydd. Jest ffeithia moel. Fe ddylwn i ei barchu o am ei onestrwydd, o leiaf, medda hitha. Gwadu fydda gwyr fel arfer, yn ôl y sôn. Mi fasa'n dda gen i tasa fo wedi gwadu wrtha i, meddwn inna'n ôl. Ddim isho gwbod oeddwn i. Wylltish i braidd efo hi. Wel! Roedd hi'n anodd peidio. 'Oedd o'n defnyddio condoms?' gofynnodd hi wedyn. 'Ddim efo fi,' atebish inna. Ond nid dyna oedd ganddi mewn golwg. Roedd hi'n bwysig 'mod i'n dallt y peryg. Yn bwysig 'mod in gwbod beth i'w wneud. Finna wedi bod yn ei wneud o ers imi 'rioed ei nabod o. Doedd hi ddim yn dallt. Glywish i 'i chynhyrf hi lawr y ffôn. Er ei bod hi'n ddigon proffesiynol wrth 'i phetha. Yn trio peidio dangos dim. Ond fe welish i trwyddi'n ara bach. Pledio gonestrwydd mewn un gwynt ac yn gelwydd i gyd gyda'r llall. Ofynnish i be ddylwn i 'i wneud. Ond nid yno i ateb problema oedd hi, medda hi. Am roi cyfla imi siarad petha trwodd oedd hi. Ffordd arall o redeg bil ffôn i fyny, feddylish inna. Ond pa well fyddwn i o ddadla hynny efo hi. Dim and joban oedd yr ychydig oriau hynny bob nos Fawrth iddi. Ac roedd hi'n ddigon clên. Lucinda ydy'i henw hi. Croeso imi alw eto unrhyw nos Fawrth. Ac roedd croeso imi'i galw hi'n Lucy, taswn i'n cael Lucinda yn ormod o lond pen. Lucy fydd 'i phlant yn 'i galw, medda hi. Roedd ganddi ddau hogyn. A dyna pam roedd hi'n hwyr yn cyrraedd y swyddfa, mae'n debyg. Gorfod mynd a'r hogyn hyna i'r Sgowts a rhwbath yn bod ar y car. Mi ddeudodd hi pa fath o gar oedd ganddi, ond chofia i ddim. David sydd fel arfer yn talu sylw i ryw betha felly. Mi ddois i wbod cryn dipyn amdani mewn gwirionedd. Ond ches i mo enwau'r plant. Na'r gwr. Hwnnw wedi 'madal erbyn hyn, yn ôl pob sôn. Byw yng Nghaer ar 'i ben 'i hun. Rhywle yng Nghlwyd mae Lucinda'n byw. Digon agos i'r hogia gael cadw nabod ar 'u tad meddwn i. Ond ddeudodd hi ddim i hynny. Go brin y do i i ben â ffonio eto. Eithriad oedd hi ei fod o allan ar nos Fawrth. Rownd neu ddwy yn y Clwb i ffarwelio ag un o'i fêts o'r gwaith medda fo. Dw i'n 'i gredu o, wrth gwrs. Fel y deudish i wrth Lucinda, un o'i rinwedda fo sy'n brifo fwya ydy'i habit o o ddeud y gwir bob amser. Dydd Mercher heddiw. Mi fydd ei fam yma toc. Tydy hi ddim yn gweithio ar bnawn dydd Mercher ac yma fydd hi gewch chi weld. Yn ei siwt las a'r flowsan wen odani. Yr un hen sgwrs, hefyd. 'Lwcus fuoch chi i gael y ty 'ma mor fuan ar ôl priodi. Fuo 'na 'rioed ofn gwaith ar David ni.' Mae pawb yn gytûn nad oes arno ofn gwaith. 'Do. Mi fûm i1n lwcus iawn,' fydd f'ateb inna, fel parot. 'A ma'r lle 'ma fel pin mewn papur gynnoch chi.' 'Dw i'n gwneud 'y ngora.' Rhoi mwytha i Llinos fydd hi wedyn trwy'r pnawn. Llenwi1r lle 'ma â1i sent ac aros i de. Yr un hen drefn. Wn i ddim pam dw i'n mwydro sôn. Am fod gen i trwy'r min nos i feddwl mor ddiffaith fu'r dydd, mae'n siwr. Nos Fercher, 'dach chi1n gweld. Ar ô1 i'w fam fadal, mi fydd ynta'n paratoi i adal. Y nosweithia mae o allan sy waetha. I'r dafarn 'na yn dre eith o heno, siawns, a hitha'n ganol wythnos. Dyna lle maen nhw i gyd yn mynd. Fe ddeudodd o wrtha i. Pawb yn dre 'ma'n gwbod am fan'no, siwr o fod. Doedd o ddim fel tasa fo'n poeni am hynny. Cwrw da yno medda fo. Fuo gynno fo 'rioed fawr o glust am glecs. Tydw i gynno fo. Yn glustia. Yn howscipar. Yn cynnal cartra cyfan iddo fo. Rwy'n bob dim ond yn hen geg. 'Y nhafod i'n sych grimp bob tro dw i isho deud dim byd o bwys. Wn i ddim be sydd yn ei feddwl o rwan, dyna'r drafferth. Mae o mor dawel o gwmpas y lle. Di-ddeud a di-wên. Ar wahan i pan fydd Llinos o gwmpas. Nid ei fod o'n annymunol chwaith. Dyna pam y mae hyn mor od. Mae hwn yn dawelwch gwahanol rwan i'r tawelwch oedd rhyngon ni o'r blaen. Tawelwch dw i ddim yn 'i ddallt ydy hwn. Rwy'n ama'i fod o'n mynd i Gaer neu Lerpwl bob nos Sadwrn. Roedd y milltiroedd ar beiriant bach y car wedi codi o beth coblyn rhwng pnawn Sadwrn a phnawn Sul un tro. Mi fydda i'n sylwi ar betha weithia, pan dw i1n cofio edrych. Gas gen i 'i glywad o ar y llofft yn sbriwsio'i hun at fynd allan. Ista fan 'ma'n chwara efo rhai o degana Llinos fydda i'n 'i wneud. Cadw 'mysadd yn brysur a rhythu ar y teledu. Fe ddaw i mewn yn siriol i ddeud y gwelith o fi yn y bore, am beidio aros ar 'y nhraed yn rhy hwyr. A phan fydda i1n clywad y drws yn cau, rwy'n gallu anadlu'n iawn unwaith eto. Ac ista fan 'ma'n meddwl be sgen i i'w wneud. Gas gen i smwddio yn fwy na dim, felly mae nos Fercher neu nos Sadwrn yn amser da i'w wneud o. Haws meddwl cymaint rwy'n casAc o leiaf wedyn mae'r smwddio wedi'i wneud cyn y bore. Clywch! Mae hi yma! Drapia! Finna wedi meddwl tacluso tipyn cyn iddi ddod. Llanast ar hyd y stafell 'ma. Mynydd o ddillad yn y gegin. Ond be dw i dda o fwydro? Lwcus fydda i eto heddiw. A'r lle 'ma fel pin mewn papur. Camgymeriad mawr arall pnawn 'ma. Mam yn galw a finna'n penderfynu deud wrthi. Nid y cyfan. Nid yr holl betha rheini ddeudodd o wrtha i fisoedd yn ôl. Nid y distawrwydd. Nid yr ofn. Jest sôn am y dafarn. A deud bod David yn mynd yno. Hithau'n troi arna i'n syth a honni mai dim ond ffwl oedd yn taflu picell at ei chwch ei hun. Wedi cam-ddallt own i mwy na thebyg. 'A ph'run bynnag, os ydy dyn yn ennill 'i damad yn onast ac yn dod adra'n sobor yn amlach na pheidio, pa ddiawl o otsh ble mae o'n torri'i syched?' Dyna ges i ganddi. A phan glywodd hi am y ffonio, fe aeth yn gandryll. Cynllwyn gan hen bobl ddosbarth canol i chwyddo elw BT oedd y cyfan, medda hi. 'Doedd 'na ffasiwn beth â Helplines yn 'y nyddia i, 'ngeneth i. Dim ond lein ddillad: Ac roeddan ni1n ddiolchgar am un o'r rheini.' Mae Mam yn licio meddwl ei bod hi'n ffraeth. Es i ddim i ddadla. Dim ond gwrando. Rheitiach imi gadw 'mhres at Dolig na'i wastraffu fel 'na, medda hi. Pres David, fe bwysleisiodd. Bod yn ddiolchgar ddylwn i, mae'n debyg. Na, ddeudodd hi ddim byd allan o'i le wrtho fo pan ddoth o adra o'r gwaith. Y gusan arferol ar ei boch. Roedd o'n gwenu. Siarad mawr dros swper. David yn deud wrthi cymaint mae o'n edrych 'mlaen at y gwylia yn Portiwgal haf nesa. Mam yn edrych 'mlaen at Dolig. Y ddau yn cynhyrfu Llinos efo'u mwydro. Finna'n gorfod clirio i fyny ar ôl iddi fod yn sâl. Cyn clwydo heno, fe fynnodd David nôl y goeden o'r atig. Sypreis i Llinos at fory, er bod 'na fis i fynd. Wrth ddal y steps ar ben y landin, tra'i fod o1n howlio'i hun i fyny, rown i1n clywad yr ofn yn chwys oer trosta i. Ofn ei golli o. Roedd jest gweld ei gorff o'n diflannu i mewn i1r twll 'na yn y nenfwd yn ddigon i wneud i 'nghroth i grynu. Rown i'n ei weld o yn y disgo hwnnw yn hen gwt y Territorials. Dyna lle ddaru ni gyfarfod. Ei fets o'n ei herio i ddod draw at y llygoden fach i ofyn iddi ddawnsio. Finna'n mynd am 'mod i wedi laru ista o gwmpas y bwrdd bach 'na'n gwrando ar y genod erill yn mynd trwy' u petha. Ac eniwe, roedd o'n edrych yn reit smart. Trywsus go-iawn yn lle jîns tragwyddol hogia'r dre. Ddeudodd o fawr. Ddeudish inna lai. A felly y bydda hi wrth ganlyn. Lladd amser yn nhai ein gilydd. Mynd i'r pictiwrs weithia. Mynd am ddrinc. Efo rhai o'i fêts o'r fyddin weithia. Be oedd enw'i ffrind mawr o hefyd? Leigh! Ia, dyna fo! Wn i ddim be ddigwyddodd i chwalu'u cyfeillgarwch nhw. David yn 'cau deud. A Gaynor, 'i gariad o. Hogan fferm o ochra Dolgella. Ond fasach chi byth yn deud. Ei bod hi'n hogan fferm, dw i'n feddwl. Ear-rings anferth ganddi a bangls alla ffitio gwddw tarw am ei garddyrna. Roedd hi'n gwbod pob dim am winoedd a bwydydd ecsotig a ballu. Joban dda efo'r cyngor ganddi. Ac fe aethon ni allan i ginio un tro, y pedwar ohonon ni. I'r restront reit posh 'cw oedd yn arfer bod yn ymyl y coleg. Mae o wedi cau, wrth gwrs. Y ddau ddyn yn sticio at stêc yr un a finna'n cael pob dim gafodd Gaynor. Chofia i ddim beth yn union. Tydan ni byth yn bwyta allan rwan. Hufen iâ i Llinos yn y parc os ydy'r fan yn ymyl, dyna i gyd. Priodi ddaru nhw, rwy'n meddwl. Leigh a Gaynor. Priodi a symud i ffwrdd. Er wn i ddim pam na fedra fo fod yn wâs priodas, funud ola fel 'na. Rhyw ddrwg yn y caws, mae'n rhaid. Tymer y diawl ar David ar y pryd. Rwy'n cofio rwan. 'Mater rhyngof fi a fo yn unig. Dallt?' Dyna i gyd ges i. Drysa'n cael eu cau yn glep a finna fawr callach. Rhaid nad ydy o bob amser wedi bod mor barod i ateb 'y nghwestiyna i'n onest. Ddim bob amser isho deud y gwir i gyd. Wedi newid mae o, ylwch. Ond fedra i yn fy myw gofio pryd. Bron yn bump arno'n dod i mewn bore 'ma. Rhaid 'mod i wedi syrthio i gysgu rhyw ben. Ond fe glywish i'r drysa. Drws y car. Drws y cefn. Drws llofft Llinos. Mi fydd o bob amser yn picio i lofft Llinos cyn dod i'w wely. Finna'n gorwedd a 'nghefn at y gola yn esgus cysgu. Dechra meddwl wedyn beth alla ddigwydd tasa fo ddim yn dod 'nôl o gwbwl un noson. Fe alla fo 'ngadal i, fel gwr y Lucinda honno. Neu gyfarfod â rhywun sbesial. Yn 'i enw fo mae'r ty, 'dach chi1n gweld. Yn 'i enw fo mae popeth sy gen i. Mi fuo petha'n well ers misoedd. Yn 'y meddwl bach i, p'run bynnag. Dolig penigamp. Pryd o fwyd ar 'y mhen blwydd i hefyd. Dros fis er hynny, bellach. Ond coblyn o noson dda. Wel! fawr o sgwrs rhyngon ni, wrth reswm. Ond roedd y pryd yn dda a'i fam wedi rhoi pumpunt iddo i gael tacsi adra. Tipyn o ddiod ynddo ac mae o'n ymlacio mymryn. Tydy petha ddim yn rhy ddrwg fel maen nhw rwan a deud y gwir. Mae o'n dal yn glên. Cleniach nag a fuodd o, os rwbath. Rwy'n dal i wneud 'y ngora. Iddo fo. I Llinos. I'r ty 'ma. I bopeth sy yn 'i enw fo. Un ddrwg am hel meddylia ydw i. Rwy'n medru gweld hynny, ond fedra i wneud dim byd yn 'i gylch o. Ella imi gam-ddallt be ddeudodd o'r noson honno fisoedd maith yn ôl. Ella imi ddarllen bysedd y cloc yn rong. 'Dwyt ti ddim am fynd a 'ngadael i, wyt ti?' sibrydish i bore 'ma rhwng hanner cwsg ac effro, wrth iddo sleifio o'r cynfasa ac am y ty bach. 'Rhaid imi, del. Gen i waith i fynd iddo fo,' oedd ei ateb. Roedd o wedi cam-ddallt. Llawn cystal, ella. Dim ond gwylltio wnâi o. Oeddwn i wedi bod am brawf HIV? Dyna'r peth cynta ddeudodd hi, bron. Chofia i ddim a ddeudodd hi'r gair 'Llongyfarchiadau' ai peidio. Ond byrdwn ei sgwrs hi oedd pwysleisio y dylwn i wybod fy statws HIV cyn parhau â'r beichiogiad 'ma. Roedd gen i ryw syniad am be roedd hi'n sôn, ond dim llawer. Taswn i'n cario'r feirws mi fasa'n rhaid imi wneud y peth cyfrifol a chael erthyliad. Dyna farn Lucinda. Doedd dim dewis arall amdani, er tegwch i'r bychan. Rown i1n difaru ffonio. Meddwl y basa hi'n falch o glywad y newyddion oeddwn i. Mwya gwirion imi. Jelys oedd hi, rwy'n credu. Mae hi isho rhagor o blant ei hun and does ganddi ddim gwr i roi rhai iddi. Roedd o'n bwysig 'mod i1n codi1r mater yn y clinig, medda hi. Ond tydw i ddim am wneud. Ar ôl y sgwrs tro blaen efo hi, fe wnes i bwynt o fynd trwy betha David ac fe ffeindish i lwyth o bacedi condoms yn y drôr lle mae o'n cadw papura pwysig - llythyra'r banc, y mortgage a ballu. Doedd o ddim yn meddwl y baswn i byth yn edrych fan 'na. Sonish i'r un gair wrth Lucinda. Tydy o ddim o'i busnes hi, yn nac ydy? Dw i1n meddwl ei fod o'n edrych ar yn hola ni. David. Fe wirionodd o1n lân pan glywodd o am y babi newydd. Does bosib y gwnai o ddim byd i'n brifo ni rwan. Wna i ddim ffonio honna eto. Wedi1r cyfan, y fi ddyla'i nabod o ora, yntê? Fi ydy'i wraig o. Gwthio Hannah 'nôl o'r clinig oeddwn i. Mi faswn i wedi'i nabod hi yn rwla. Cylchoedd mawr aur yn hongian o'i chlustia hi a siwt ddrud yr olwg amdani. Finna yn fy hen jîns a sweater yn edrych yn rêl tramp, fel arfer. 'Wyt ti'n dal yn briod?' gofynnodd mewn rhyfeddod. Swnio'n reit sbeitlyd a deud y gwir. Ond chwara teg iddi, fe wnaeth hi lot o ffys o'r fechan yn 'i choetsh. Methu cuddio'r ffaith ei bod hi wedi troi'n dipyn o sinig oedd hi, mae arna i ofn. Teimlo'n ofnadwy wedyn pan glywish i am Leigh, a finna wedi bod yn meddwl petha cas amdani. Aethon ni i gaffi'r Sweet Tooth. Hwnnw sydd gyferbyn â Smiths. Drud ydy hi yno. Dim ond dwy baned a darn o deisen yr un oeddan ni isho. Rown i wedi clywad sôn fod angen celc go dda cyn claddu'ch dannedd mewn dim byd yno. Dros bumpunt! Ond ta waeth, Gaynor dalodd a fynnai hi ddim clywad sôn am gyfraniad gen i. Es inna ddim i ddadla. Meninjeitis ddaliodd o i ddechra, medda hi. Ond dybl niwmonia a'th ag o yn y diwedd. Tair wythnos o waeledd i gyd. Brawychus o sydyn fel y byddan nhw'n ei roi yn y papura. Golwg dda arni hefyd. Pensiwn o'r fyddin ac wedi cael swydd yn ôl yn y Cyngor Sir. Dim arlliw o alar yn 'i chylch hi. Dim ôl dolur yn 'i llais hi na dim. Wel! Dydy o ddim i'w ddisgwyl mae'n debyg. Ddim ar ôl dwy flynadd. Rown inna'n edrych yn dda medda hi. Digon o hyder i wneud y gora o liw fflamgoch 'y ngwallt o'r diwedd. Gwneud imi edrych yn iau na phan own i'n ugian, medda hi. Dylanwad Dylan, meddwn inna. Gorfod egluro wedyn pwy oedd Dylan. Un o fêts y gwr 'cw. Nyrs ydy o wrth 'i alwedigaeth. Rhaid imi fod yn ofalus i ddeud hynny'n iawn. Achos y tro cynta y doth o acw i de, fe wnes i ofyn pa job oedd o'n ei gwneud. Mi ges i wbod yn ddigon sydyn nad job ydy nyrsio, ond galwedigaeth. Nid ei fod o'n gweld chwith go-iawn. Un garw am dynnu coes ydy o, dyna i gyd. Pawb rownd y bwrdd te yn chwerthin. Hyd yn oed Llinos fach. Ond doedd honno ddim yn dallt ystyr galwedigaeth, wrth reswm. Prin ddallt ydw i fy hun. Fe gafodd hi fodd i fyw, fy ngweld i eto. Gaynor. 'Yn goch dy wallt a rhydd dy dafod,' chwedl hitha. Dyna mae wyth mlynedd o fywyd priodasol yn 'i wneud i hogan, eglurish inna. A dyna dynnu allan y llunia rown i newydd alw amdanyn nhw o Boots. Y ffilm ola wedi bod yn y camera ers y gwylia rheini yn Portiwgal. Y gwylia pan gafodd Hannah ei chenhedlu. Er, o sbio ar y llunia, go brin y basach chi1n sylwi 'mod i ar wylia efo fo a Llinos. Digon 'chydig ohona i sydd ynddyn nhw. 'Dw i'n un well am 'u tynnu nhw nag am ymddangos ynddyn nhw, fydd fy esgus i bob tro,' medda fi'n smala. Roedd hi wedi mopio 'y nghlywad i1n siarad felly mor bowld. Mi fydda i weithia'n reit rydd 'y nhafod rwan. Hyd yn oed o flaen David. Dydy o ddim fel tasa fo'n sylwi rhyw lawer. Dim ond imi beidio mynd yn rhy bell. 'Hync' oedd ei gair mawr hi amdano fo, wrth imi fodio trwy'r llunia. Es i'n reit gyflym trwy'r rhai ohono fo ar y traeth ac yn chwara yn y pwll nofio efo Llinos, achos rown i'n gallu gweld ei bod hi'n glafoerio mwy trosto fo nag oedd hi dros ei cream gateau. Difaru colli nabod arnon ni oedd hi, medda hi, ac wedi anghofio un mor olygus ydy o. Wel! Tydy o ddim yn olygus a deud y gwir. Mi fedrwn i hyd yn oed weld ei bod hi'n eu rhaffu nhw erbyn hyn. Unig ydy hi, dw i1n meddwl. Gofyn gai hi alw acw. Wedi symud 'nôl i'r ardal a sylweddoli fod 'yr hen giang', chwedl hitha, wedi setlo i lawr i gyd neu symud ymaith. Leigh oedd ar fai, medda hi. Fo a'i hang-yps wedi dod rhyngon ni i gyd. Ddeudodd hi ddim mwy. Es inna ddim i holi. Mae'n dod acw am de ar ôl gwaith bnawn dydd Mawrth nesa. 'Unig ydy hi, wst ti,' medda David yn ddoeth, fel taswn i heb weithio hynny allan trosof fy hun. Wedi colli'i gwr, greaduras! Heb blant. Tydy joban dda na llond drôr o jinglarings ddim yn gwneud iawn am hynny, yn nac 'dyn? Lwcus ydw i yn y bôn. Ac mi ddeudish i hynny wrtho fo gynna. Rown i'n rhoi'r genod trwy'r bath ac roedd ynta'n paratoi at fynd allan. Cytuno â fi ddaru o. Gan wenu arna i yn y drych wrth roi ei dei yn dwt. Y Dylan 'na newydd ffonio. Gofyn lle oedd David. Wedi trefnu i'w gyfarfod o yn rhwla, yn ôl y sôn, a fynta heb droi i fyny. Ella'i fod o wedi stopio mynd i'r dafarn 'na yn y dre. Wn i ddim i sicrwydd. Wna i ddim holi.