Emyr Lewis Rhyddid ********** 1. Tician mae amser ar y silff ben tân, mewn capeli gwag a pheiriannau ffôn: amser digidol yn glinigol lân. Mae amser arall allan ar y lôn, rhwng lampau budron ar gorneli stryd ac anadliadau diog sacsoffon; amser a blethwyd i gilfachau mud fel llythyr caru ym mhocedi'r sêr, fel llythyr twrne ym mhocedi'r byd; amser a'i gwantwm yn guriadau blêr calonnau heb eu cydamseru'n dwt synchro-mesh yn crensian wrth newid gêr. Ac yn yr amser hwnnw y mae pwt o hanes enaid pawb, ac ambell gân neu alwad ffôn, a phader fach ffwr-bwt. Estyn dy law i deimlo'r bore'n boenus o agos fel atgof blas, a disgwyl am wyrth y twymo araf sy'n troi y tarmac yn heol gras. Estyn y llall yn gymar iddi lle nad oes gweddi ond awyr wag yn loyw i gyd, a'r haul ar godi drwy swn moduron ac oglau brag. Estyn y ddwy'n gyfeillgar allan i'r colomennod ac adar y to; ond cofia roi sws ta-ta bach ffyrnig i'r nos sy'n 'madael â'r byd, dros dro. Hon yw dinas y pethau coll 'ddaliwyd yn y bwlch rhwng pnawn dydd Sul a gweddill amser; pethau y bu stamp eneidiau arnynt unwaith; nawr ar goll. Mewn cwteri, o dan bontydd trên, ym morderi'r parciau'n llechu'n saff o afael atgof ac arwyddocâd, ffotograffau pasport, menyg chwith, poteli whisgi hanner-gwag o wlith, allweddi cartref, arian mân; a'r baw, sy'n lluwchio pan ddaw'r gwynt yn nyddiau'r cwn, yn bwrw arnynt am yn ail â'r glaw. Heb eu claddu, heb eu marwnadu'n iawn nid oes defodau cymwys i bethau coll, dim ond bytheirio byr o dro i dro cyn ymryddhau, a'u gollwng nhw dros go'. Oni ddown i'r Waun Ddyfal yn dawel, â'n dwylo ar led, i glustfeinio gweddïau, i wrando cyffesion cred ceidwaid ei siopau cornel, ffyddloniaid y 'Flora' a'r 'Crwys'; oni ddown i'r Waun Ddyfal felly, nid ym gymwys. Oni ddown i'r Waun Ddyfal a garwn, pan fydd y gwlith ar doeau'r ceir yn belenni, i wylio ei hadar brith a'i hen wragedd sy'n rhegi ei gilydd wrth groesi'r lôn; oni ddown i r Waun Ddyfal felly, nid yw'n ddigon. Oni ddown i'r Waun Ddyfal i ddawnsio, â hithau'n boeth, a llwch cyfarwydd ei phalmant yn gras dan ein gwadnau noeth, i blith ei mil fforddolion, yn rhith mewn ffenestri llwyd; oni ddown i'r Waun Ddyfal felly yn ein breuddwyd? Rhaid peidio dawnsio yng Nghaerdydd rhwng wyth a deg y bore: mae camerâu yr Heddlu Cudd a'r Cyngor am y gore yn edrych mas i weld pwy sydd yn beiddio torri'r rheol na chaiff neb ddawnsio yng Nghaerdydd ar stryd na pharc na heol. Mae dawnsio wedi deg o'r gloch yn weithred a gyfyngir i gwarter awr mewn 'sgidiau coch mewn mannau lle'r hebryngir y dawnswyr iddynt foch ym moch, heb oddef stranc na neidio, ac erbyn un ar ddeg o'r gloch rhaid i bob dawnsio beidio. Ond ambell Chwefror ar ddydd Iau, pan fydd y niwl a'r barrug yn fwgwd am y camerâu fel bo'r swyddogion sarrug yn swatio'n gynnes yn eu ffau gan ddal diodydd poethion, mae'r stryd yn llawn o naw tan ddau o ddawns y sodlau noethion. Nid oes chwyn yn tyfu byth ar balmentydd y brifddinas, lle y chwyth gwynt mynwentydd. drwy'r brysurdeb dyddiau gwaith a'u defodau; nid oes amser cofio iaith hen adnodau. Ond mi wn pan ddeui di'n droednoeth heno, yn ein hamser ataf i, pan orffenno heddiw arall a chybôl ei brysuro, bydd y palmant ar dy ôl yn blaguro. Nid oes cleddyf rhyngof â'm hanwylyd, cerddwn ar hyd coridorau cwsg law yn llaw neu forddwyd llyfn ym morddwyd, cyd-brydleswyr palas ein breuddwydion. Weithiau'n eryrod, weithiau'n dylluanod, hedwn ar adain ara' deg ymysg siandelîrs ein plantos a'n hynafiaid (glaw yn cledro'r gwydr oddi allan). Cysgu mae amser, effro yw ein cariad, cyd-ddawnsiwn yn gymesur yn ein masg: cariadon ifanc yn gariadon henoed, am byth yn Golwmbein a Harlecwin. Yn yr amser amherffaith y caniateir i ni freuddwydio ynddo, mewn seibiannau rhwng ufuddhau i'r tician digyfaddawd, pan fydd y sêr i'w gweld, a'r holl fydysawd yn canu'i delynegion i ni'n dau, yn nhywyllwch canhwyllau, yn swn ceir, mae'r nos yn cau. Am nad yw arad dychymyg yn troi'r stryd yn fraenar cyfiaith lle cawn ni weddïo, am nad yw'n codi'r trugareddau gollwyd heb eu marwnadu'n iawn, am na all breuddwyd drwsio egwyddor clociau, am y tro yn salem ein noswylio, dyna glyd yw byw dan glo. Yma mae ein cyfaddawd, ein hamser cain, rhwng diniweidrwydd rhemp ein caru cyntaf a'r llwch anadlwyd gennym ers blynyddoedd yn llundain-ddoeth, yn gyfrwys fel dinasoedd. Rhyngddynt, a rhwng y coed ar lannau Taf noswyliwn mewn dawns olaf yn swn brain, ryw noson braf. (h) Emyr Lewis a Llys yr Eisteddfod Genedlaethol