Iwan Llwyd Far Rockaway ********* Dw i am fynd â thi i Far Rockaway, Far Rockaway, mae enw'r lle yn gitâr yn fy mhen, yn gôr o rythmau'r haf a llanw'r môr: yn sgwrs cariadon dros goffi cry ar ôl taith drwy'r nos mewn pick-up du, yn oglau petrol ar ôl glaw yn chwilio'r lleuad law yn llaw, yn hela brogaod ar gefnffordd wleb, yn wefr o fod yn nabod neb: dwi am fynd â thi i Far Rockaway, Far Rockaway, lle mae cwr y ne yn golchi'i thraed ym mudreddi'r traeth, ac yn ffeirio hwiangerddi ffraeth, lle mae enfys y graffiti'n ffin rhwng y waliau noeth a'r haul mawr blin, lle mae'r trac yn teithio'r llwybr cul rhwng gwên nos Sadwrn a gwg y Sul, a ninnau'n dau yn rhannu baich ein cyfrinachau fraich ym mraich: dwi am fynd â thi i Far Rockaway, far Rockaway, lle mae heddlu'r dre yn sgwennu cerddi wrth ddisgwyl trên ac yn sgwrsio efo'u gynnau'n glên, lle mae'r beirdd ar eu hystolion tal yn cynganeddu ar bedair wal, yn yfed wisgi eo gwlith, yn chwarae gwyddbwyll â'u llaw chwith, mae cusan hir yn enw'r lle - Far Rockaway, Far Rockaway.