Twm Morys Gethin Dob Electrics ************* Anghofia i byth tra byddaf y diwrnodiau cyn y Diwrnod Mawr, bum cant dwy ar bymtheg a phedwar ugain o flynyddoedd a dau ddiwrnod union ers coroni Owain Glyndwr yn Dywysog Cymru. Bu llawer arwydd ac argoel, a darogan a phroffwydoliaeth. Ar lanw mawr tywyll, mi landiodd crwban du chwe throedfedd o hyd, a saith o ben rhwyf i ben rhwyf, ar draeth Ynysgain Fawr wrth geg afon Dwyfor. Mi fum i'n sefyll efo Iwan Llwyd a Rod Richards y tu allan i gastell Caernarfon, fin nos yn y glaw mawr. 'Mae hi wedi bod yn ddiwrnod gwael!' meddai Rod Richards o dan sgafell ei ymbarel. 'Mae hi wedi bod yn saith gan mlynedd wael...' Ond ddalltodd o mo hynny. Mi glymais ddraig goch wrth erial fy nghar, a llinyn i'w chadw hi ar i fyny, a mynd felly yn y bore o Eifionydd, drwy Feirionnydd, a darn o Faldwyn, nes cyrraedd Aberystwyth yng Ngheredigion. Mi ganwyd cyrn, mi fflachiwyd goleuadau. Dim ond un ymateb cas ges i, sef deufys drwy ffenest lorri o Nuneaton. Mi es i mewn i dafarn y Cwps, a threulio'r diwrnod hwnnw drwy gerddi a chyfeddach, a phan oedd yn amserach mynd i gysgu, aros drwy'r nos... A phan oedd hi ddua', a llawer yn gwangalonni, a rhai'n gweld hynt y gwynt a'r glaw, ac yn clywed bachau'r drws ar Aberhenfelen, a swn y pethau diwethaf, a dynion yn eu hoed a'u hamser yn wylo fel plant mewn corneli, neu yn bw hwhwman yn ôl a blaen, a minnau wedi gwneud englyn am weddill ein bywyd ni: Hyd oes hir, peidio â sôn -'run gair byth, Byth am ein gobeithion. Mynd yn awr i lawr y lôn Anorfod at lan Irfon ... roedd 'na ambell un, fel Gethin Dob Electrics, yn dal yn ffyddiog. Ac wrthi'n tollti dwr oer a hallt am ben hwnnw roedden ni... 'Na, Geth... sniff... Ti ddim yn dallt, sti ... sniff ... Mae hi ar ben. Toes 'na ddim ffasiwn beth rwan ... wahaaa... â chenedl y Cymry...' Ac UST! Dyma ni'n clywed rhyw swn tebig i gyrn arian ar fynyddoedd pell, a thraed miloedd yn dod. A dyna SIR GAERFYRDDIN eto i'r adwy, a'r Cwps yn mynd o'i go'. A'r rhai fu'n wylo yn wylo eilwaith, a ffeministiaid yn cofleidio cwn drain, a dynion yn cofleidio dynion. Ac mi fyddwn ni'n gwybod yn iawn beth ydi'r ias a gerdd drwy'n cnawd pan awn ni i Sir Gaerfyrddin y tro nesa. Ac er gwaetha'r si mai peth wedi'i greu yn gyfrwys gan y teledu oedd bod cafalri Sir Gâr yn cyrraedd ar yr unfed awr ar ddeg ar hugain. Er gwaetha'r rheini sy'n dweud nad pleidlais dros genedl Gymreig neu yn ei herbyn hi oedd hi, ond pleidlais yn erbyn neu dros yr Hen Blaid Lafur. A'r rheini sy'n dweud bod 'ie' mor bitw yn Sir Fôn, a 'na' yn dangos mor arswydus o fawr fu'r mewnlifiad. A'r rheini wedyn sy'n dweud bod 'ie' a 'na' yn ramadegol wallus yn y cyd destun, prun bynnag. A'r rheini hurt sy'n dweud nad ydi Caerdydd yn haeddu cael bod yn Brifddinas am ei bod hi wedi pleidleisio yn erbyn. Er gwaetha Elwyn Jones a'i fwstash, a Tim Williams a'i broblem yntau. Er bod y Deyrnas wedi ei Huno mewn Gofid ychydig ynghynt. Ac er gwaetha'r adroddiad ym mhapur dyddiol Llydaw Ouest France nad oedd o'n dyfynnu neb ond Ancram Sais: 'Dylai llywodraeth gyfrifol dynnu'r cynnig yn ôl ...' Er gwaetha hyn i gyd, Geth Dob Electrics oedd yn iawn. Does gen i ddim mymryn o gywilydd dweud fy mod i wedi'i gusanu o. Clywed rhyddid yn dod dros fryniau Sir Gaerfyrddin. Felly roeddwn i'n ei gweld hi, ac felly y cofia'i hi am byth. A thristwch mawr ydi bod 'na dri a welodd hyn â'u llygaid o ben mynydd Nebo, ond na chawson nhw fynd drosodd. Trefan, Diwrnod 7. (h) Twm Morys